English

ARTistiaid Sir Benfro

Mae Sir Benfro wedi bod yn ysbrydoli artistiaid ers cenedlaethau. Cafodd artistiaid enwog fel Graham Sutherland, John Piper a Ceri Richards eu denu i’r gornel fach hon o Dde-Orllewin Cymru gan y tirlun a’r golau.

Croeso felly i Ganolfan Gelfyddydau ARTistiaid SIR BENFRO lle’ch gwahoddir i ddarganfod bywyd diwylliannol cyffrous a chyfoes.

Gallwch ddarganfod mwy am y fenter, darllen a lawrlwytho e-gylchgrawn safonol y grŵp sef ARTicle, darganfod y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau celfyddydol, ac yn bwysicaf oll, dod i adnabod y bobol talentog hynny sy’n gweithio ar hyn o bryd yn y rhan fechan hon o’r byd, a mwynhau eu gwaith.