ARTISTIAID
Y bwriad yw creu rhestr gyfredol o holl artistiaid Sir Benfro a galeriau annibynnol. Adnewyddir y dudalen hon yn gyson.
Gallwch chwilio fesul artist neu gyfrwng ond cofiwch, yn aml bydd artistiaid yn gweithio mewn sawl cyfrwng. Cliciwch yma ar gyfer rhestr yn nhrefn y wyddor ac yma ar gyfer rhestr fesul cyfrwng.
Darperir y wybodaeth gan yr artist, ac fe gaiff ei gwirio cyn amled â phosib. Ond cofiwch i gysylltu trwy ffôn â’r galeri yn gyntaf os ydych am ymweld – yn arbennig felly yn ystod cyfnodau tawel y flwyddyn. Fe all fod yr artist allan yn manteisio ar y tywydd a’r golau cyfnewidiol ac fe allwch gael siwrnai seithug. Fel arfer mae artistiaid yn fodlon iawn arddangos eu gwaith i chi, hyd yn oed tu allan i’r oriau swyddogol. Cofiwch hefyd na fydd pob map yn dangos yn fanwl gywir leoliad y galeri, felly mae’n werth chweil cysylltu ymlaen llaw â’r artist er mwyn derbyn cyfarwyddiadau manwl am leoliad y galeri.
Os ddarganfyddwch artist newydd nad yw ar ein rhestr, anogwch ef neu hi i ymuno â’r ganolfan gelf - mae’n rhad ac am ddim - neu dywedwch wrthon ni ac fe wnawn ni gysylltu ag ef neu hi. Gallwch bostio’ch darganfyddiad ar ein tudalen NEWYDDION. Os gwelwch yn dda, dywedwch wrth yr artistiaid sut y gwnaethoch eu darganfod.
Yn olaf, yn ogystal â rhestri artistiaid a galeriau, cynhwysir hefyd restr o wasanaethau cysylltiol – o ddarparwyr deunyddiau celf i gyrsiau celf, bwytai mewn galeriau a chyrsiau celf preswyl.