English

Amdanom Ni

Mae Sir Benfro yn meddu ar fywyd diwylliannol bywiog a chynhyrchiol gyda gweithiau gorau’r wlad yn cael eu cynhyrchu yma ac yn cael eu harddangos mewn galeriau hyfryd. Er fod Sir Benfro yn bellennig yn ddaearyddol, mae yma fywiogrwydd sy’n ymdebygu i ardaloedd fel Aberhonddu a St Ives.

Mae natur wasgaredig cymunedau Sir Benfro yn cyflwyno sialensiau – i’r artistiaid eu hunain ac i’r rhai hynny sy’n ymddiddori yn eu gweithiau ac am ddysgu mwy amdanynt.

Grŵp o artistiaid lleol yw ARTistiaid SIR BENFRO sydd yn ceisio hyrwyddo gwaith artistiaid a chynhyrchwyr oddi mewn i’r sir. Mae’r ganolfan gelfyddydau rhithiol hon gyda chymorth yr e-gylchgrawn ARTicle yn prysur ddatblygu i fod yn ganolbwynt i’r celfyddydau yn Ne-Orllewin Cymru. Trwy ddefnyddio’r wefan fel dolen i gysylltu corneli anghysbell y sir, llwyddir i godi proffeil artistig cymunedau yn y gornel fach unigryw hon o’r byd yn ogystal â darparu adnodd gwerthfawr ar gyfer y rhai sy’n ymweld â Sir Benfro fel cyrchfan celfyddydol a thwristaidd.

Gobeithiwn y gwnewch chi fwynhau eich taith rhithwir – pam na wnewch chi ddod i’n gweld cyn bo hir?